Comisiwn y
Cynulliad
Assembly Commission
NAFWC 2012 (Papur 3 Rhan
1)
Strategaeth Ddrafft y Comisiwn 2011-16
Dyddiad: Dydd
Mercher 29 Mehefin 2011
Amser: 11.30-13.00
Lleoliad: Ystafell Gynadledda 4B
Enw a rhif cyswllt yr awdur: Claire Clancy, estyniad 8233
Strategaeth Ddrafft y Comisiwn 2011-16
1.0 Diben a chrynodeb o’r prif faterion
1.1. Bydd Strategaeth y Comisiwn, pan gytunir arni, yn darparu ffocws clir ar gyfer gwaith y Comisiwn dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y nodau strategol yn llywio gwaith cynllunio ariannol y Comisiwn am dymor y Cynulliad a darparu man cychwyn ar gyfer gwaith cynllunio i Gyfarwyddiaethau a Meysydd Gwasanaeth, ac yn ffrydio’i lawr i amcanion perfformiad unigol.
1.2. Bydd y ddogfen yn galluogi’r Comisiwn i gyfleu ei flaenoriaethau strategol i:
· ddarparu cyfeiriad strategol i’r Prif Weithredwr a, thrwyddi i staff y Cynulliad, a thrwyddynt hwythau y bydd gwaith cynllunio a darparu yn deillio;
· peri dealltwriaeth a chefnogaeth ar gyfer blaenoriaethau holl Aelodau’r Cynulliad;
· cyfleu gwaith y Comisiwn yn eang; a
· darparu sail ar gyfer mesur perfformiad a gwariant y Comisiwn.
2.0 Argymhellion
2.1. Bod Comisiynwyr yn rhoi sylwadau ar y Datganiad o Ddiben a’r Nodau Strategol drafft fel y gallwn sicrhau bod y fersiwn derfynol yn ddarlun teg o’u blaenoriaethau a’u huchelgais hwy ar gyfer y Comisiwn. Mae crynodeb un dudalen o hyd ynghlwm yn Atodiad B.
3.0 Profiad ers y Trydydd Cynulliad
3.1. Ar ddechrau’r Trydydd Cynulliad, cymeradwyodd y Comisiwn ei amcanion a’i werthoedd a diffiniodd ei nodau ar gyfer y Trydydd Cynulliad. Ar ddiwedd y Cynulliad, cyhoeddodd y Comisiwn Adroddiad Etifeddiaeth i gofnodi ei gyflawniadau arwyddocaol a’r gwersi a ddysgwyd o brofiadau’r pedair blynedd. Ar gyfer pob un o’i bum nod strategol darparodd y Comisiwn argymhellion i gynorthwyo’r Comisiwn yn y Pedwerydd Cynulliad. Mae Atodiad A i’r papur yn rhoi crynodeb o’r cefndir yn y Trydydd Cynulliad, a ddeilliodd o’r Adroddiad Etifeddiaeth.
4.0 Egwyddorion i arwain y Strategaeth newydd
4.1. Gweithiodd Diben a Nodau Strategol y Trydydd Cynulliad yn effeithiol dros y pedair blynedd. Profodd eu cwmpas a’u huchelgais yn addas ac maent yn berthnasol o hyd. Roedd rhai problemau gyda dehongli ystyr y nodau. Am hynny, rydym yn argymell y dylem gadw’r strategaeth a’r nodau yn eithaf byr, syml a chryno.
4.2. Rydym yn argymell y dylai’r strategaeth newydd a’r nodau fod yn rhai uchelgeisiol ond ar yr un pryd y dylent adeiladu ar y momentwm a sicrhawyd, yn benodol, yng ngoleuni’r sefyllfa gyfansoddiadol sydd wedi newid yn dilyn canlyniad y refferendwm, a’r cyd-destun ariannol anodd presennol. Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad credwn y dylem:
· gadarnhau’r ffocws ar ddarparu gwasanaeth safonol i’r Cynulliad ac Aelodau’r Cynulliad, ac yn arbennig ar ddarparu ystod gyflawn o bwerau’r Cynulliad;
· adeiladu ar enw da’r Cynulliad fel corff sy’n rhagweithiol yn ceisio ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru yn ei waith. Sefydlwyd yr enw da yn ystod rhaglen lwyddiannus “Pleidleisiwch 2011”;
· defnyddio’r swm sylweddol o waith a wnaed yn ystod y Trydydd Cynulliad i sefydlu seiliau cadarn a datblygu strategaethau penodol er enghraifft e-ddemocratiaeth, brandio, rheoli asedau, cydraddoldebau; a
· adlewyrchu ein safiad o ran effeithiolrwydd a chyllidebau drwy ein herio i weithio’n fwy doeth, gyda rhagor o hyblygrwydd a defnydd effeithiol o’n sgiliau ac adnoddau eraill ar adeg o gyfyngiadau ariannol mawr.
4.3. Rhaid i’r strategaeth hefyd adlewyrchu’r ffaith bod Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol bod gan y Comisiwn barch at egwyddorion cyfle cyfartal, cynaliadwyedd a thriniaeth gyfartal i’r iaith Gymraeg a Saesneg wrth gyflawni ei swyddogaethau.
4.4. Rhaid i’r cynlluniau a roir ar waith i gyflawni’r nodau strategol fod yn eglur ynglŷn â chanlyniadau a fwriadwyd, allu dangos ein perfformiad a’n gwariant yn erbyn y nodau, a mesur a darparu tystiolaeth o’n cynnydd. Byddwn yn dechrau paratoi’r cynlluniau manwl, mesuradwy hyn cyn gynted ag y bydd y Comisiwn yn cadarnhau ei strategaeth.
5.0 Strategaeth newydd arfaethedig ar gyfer 2011-16
Datganiad o Ddiben Drafft
5.1. Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
5.2 Mae Comisiwn y Cynulliad yn gwasanaethu’r Cynulliad Cenedlaethol i feithrin sefydliad democrataidd cryf, hygyrch a blaengar a deddfwrfa sy’n darparu’n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.
Nodau Strategol Drafft
5.3 Nodau strategol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2011-16 yw:
·
Darparu cefnogaeth seneddol
o’r radd flaenaf
Canlyniad: Mae Aelodau’r Cynulliad yn cael eu gweld eu
bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau strategol i gynrychioli buddiannau
Cymru a’i phobl, yn deddfu ar gyfer Cymru ac yn dwyn
Llywodraeth Cymru i gyfrif.
·
Ymgysylltu’n frwd ac eang
â phobl Cymru
Canlyniad: Mae pobl Cymru’n ymddiddori yng ngwaith y
Cynulliad a gallant ddeall yn rhwydd a chymryd rhan yn rôl y
Cynulliad i ddeddfu, craffu a chynrychioli, ac mae’r
Cynulliad yn cael budd o’r egni creadigol sy’n deillio
o’r fath ymgysylltu.
·
Ennill ffydd Aelodau’r
Cynulliad a phobl Cymru yn y modd rydym yn darparu gwasanaethau ac
yn rheoli costau
Canlyniad: Mae Aelodau a’r cyhoedd yn cydnabod ac yn
ymddiried ein bod yn gwneud defnydd da o arian y trethdalwr, ein
bod yn rheoli adnoddau er mwyn darparu gwasanaeth cyhoeddus
hanfodol gydag effeithiolrwydd a gwerth am arian gwell.
5.4 Mae’r modd rydym yn darparu’r nodau hyn yn bwysig hefyd. Byddwn yn:
· gweithredu gydag uniondeb a thegwch a byddwn yn ddiduedd, gan ddangos parch at bawb ac yn trin pawb yn gyfartal
· cryfhau ethos dwyieithog y Cynulliad;
· darparu pob agwedd ar gyfrifoldebau’r Comisiwn yn gyflym, gydag arbenigedd proffesiynol ac ethos gwasanaeth cadarn;
· gosod safonau uchel a chadw ein haddewidion;
· bod yn agored a thryloyw, yn gwneud ein hunain yn agored i graffu manwl o bob tu, ac yn darparu tystiolaeth y gellir ei mesur o’r hyn a gyflawnwyd gennym;
· buddsoddi mewn cynaliadwyedd a thechnoleg i wella effeithiolrwydd; a
· dangos ein hymrwymiad gwirioneddol i ddemocratiaeth seneddol yng Nghymru a’n balchder yn y Cynulliad
Cefndir gan adroddiad etifeddiaeth Comisiwn y Trydydd Cynulliad
1. Cytunodd y Comisiwn diwethaf mai ei ddiben mwyaf blaenllaw fyddai: “Gwneud y Cynulliad yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ennyn hyder ym mhobl Cymru”.
Pum nod strategol ar gyfer y Trydydd Cynulliad
Byddwn yn hyrwyddo datganoli ac yn annog mwy o bobl
i gymryd rhan yn y broses
2. Roedd y Comisiwn diwethaf am ddangos bod y Cynulliad yn gweithio dros bawb yng Nghymru gan eu hannog i gymryd rhan fwy ymarferol yn y broses ddemocrataidd, ac yn pwysleisio sut y mae’r Cynulliad yn effeithio er gwell ar fywydau pobl Cymru. Gyda datganoli ehangach yn raddol drwy Ddeddf 2006, a’r refferendwm ynghylch mwy o gymhwysedd deddfwriaethol, roeddem am ddangos ein bod yn barod i ymgymryd â’r heriau hyn gyda brwdfrydedd. Roedd yr Adroddiad Etifeddiaeth yn argymell y dylai Comisiwn nesaf y Cynulliad ganolbwyntio ar y materion lefel uchel canlynol mewn perthynas â’r nod strategol hon:
Byddwn yn dangos undod ac arweiniad ac yn ymateb
yn feiddgar i newidiadau cyfansoddiadol.
3. Roedd y Comisiwn diwethaf am i’r Cynulliad ddangos hyder a gallu wrth ddefnyddio’i bwerau newydd. Roeddem yn unedig yn ein bwriad i sicrhau gwaith craffu a deddfu o’r radd flaenaf, gan gynorthwyo’r Aelodau ym mhob agwedd ar eu gwaith fel cynrychiolwyr etholedig. Roedd yr Adroddiad Etifeddiaeth yn argymell y dylai Comisiwn nesaf y Cynulliad ganolbwyntio ar y materion lefel uchel canlynol mewn perthynas â’r nod strategol hon:
· sicrhau bod adnoddau ar gael i ddiwallu anghenion y Cynulliad yn y dyfodol yn dilyn y bleidlais gadarnhaol a phenderfyniadau’r Pwyllgor Busnes/Cynulliad mewn cysylltiad â threfnu busnes y Cyfarfodydd Llawn a’r pwyllgorau;
· cydgysylltu â’r Bwrdd Taliadau i sicrhau bod penderfyniadau’r Comisiwn a’r Bwrdd yn ategu ei gilydd lle bynnag y bo modd;
· trafod â Llywodraeth Cymru i sicrhau blaenoriaeth i hawl Aelodau unigol a phwyllgorau i weld gwybodaeth ffeithiol sy’n cael ei dal gan Lywodraeth Cymru.
Yn ein holl waith, byddwn yn dangos parch, cywirdeb a llywodraethu da
4. Roedd y Comisiwn diwethaf yn sylweddoli ei bod yn ofynnol bod modd i bobl graffu’n fanwl ar bob agwedd ar ein gwaith, rhaid i’n holl waith fod yn dryloyw a rhaid iddo adlewyrchu natur amrywiol Cymru a’i hieithoedd a’r modd rydym yn delio â phobl ac yn eu cynnwys yn ein gwaith. Roedd yr Adroddiad Etifeddiaeth yn argymell y dylai Comisiwn nesaf y Cynulliad ganolbwyntio ar y materion lefel uchel canlynol mewn cysylltiad â’r nod strategol hon:
· ystyried yn ofalus y cydbwysedd priodol rhwng darbodion a chyflenwi gwasanaethau, er mwyn osgoi amharu ar wasanaethau hanfodol i Aelodau a gwastraffu egni ac adnoddau ar amddiffyn penderfyniadau y mae Aelodau’n eu cael yn annerbyniol.
· sicrhau nad yw cydraddoldeb ac amrywiaeth yn dioddef yn ystod cyfnod economaidd caled.
· symud ymlaen â threfniadau newydd i gyflenwi gwasanaethau dwyieithog ar sail gadarnach, yn cynnwys Cynllun Iaith Swyddogol.
· cynorthwyo’r Pwyllgor Archwilio yn ei waith o gynnal safonau llywodraethu uchel ym mhob rhan o’r corff, gan gynnwys meysydd caffael a rheoli contractau.
Byddwn yn gweithio’n gynaliadwy
5. Roedd y Comisiwn diwethaf am ddangos arweiniad yn y ffordd rydym yn trin a thrafod ein gwaith a’n hystâd, a’n nod yw sicrhau ein bod yn gwneud hynny yn y ffordd fwyaf cynaliadwy bosibl. Roedd yr Adroddiad Etifeddiaeth yn argymell y dylai Comisiwn nesaf y Cynulliad ganolbwyntio ar y materion lefel uchel canlynol mewn perthynas â’r nod strategol hon:
· cydnabod ac adeiladu ar sail arweiniad y Comisiwn wrth sicrhau gweithio cynaliadwy ar gyfer y Cynulliad wrth benderfynu ar flaenoriaethau ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad;
·pennu ffyrdd i gynnal momentwm pan allai’r hinsawdd
economaidd ei gwneud yn fwy anodd buddsoddi’n uniongyrchol mewn cynaliadwyedd;
· gwneud ein cyflawniadau yng nghyd-destun polisïau
amgylcheddol a’n dymuniad i gynnal y momentwm yn rhan
allweddol o’n cyfathrebu a’n haddysg ar gyfer defnyddwyr ystâd y Cynulliad, ymwelwyr a Chymru’n gyffredinol;
· fel rhan o’r dull hwn o weithredu, pennu blaenoriaeth polisïau cynaliadwyedd yn ofalus er mwyn sicrhau’r canlyniadau a ddymunir heb effeithio’n amhriodol ar Aelodau ac eraill sy’n defnyddio ystâd y Cynulliad.
Byddwn yn gofalu bod gan y Cynulliad y gwasanaeth gorau, a gaiff ei ddarparu yn y ffordd fwyaf effeithiol
6. Roedd y Comisiwn diwethaf am godi safon y gwasanaethau a ddarperir i Aelodau a phobl Cymru, gan ddangos ein bod yn defnyddio’n hadnoddau’n ddoeth ac yn effeithiol ac yn rhoi gwerth am arian. Gwasanaethu, yng nghyswllt yr Aelodau a phawb sy’n ymwneud â’r Cynulliad, yw’r ethos sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Roedd yr Adroddiad Etifeddiaeth yn argymell y dylai Comisiwn nesaf y Cynulliad ganolbwyntio ar y materion lefel uchel canlynol mewn perthynas â’r nod strategol hon:
· Cysylltu’n agos ag Aelodau a’u staff cymorth ynghylch y gwasanaethau y maent eu hangen ac ansawdd y gwasanaethau a ddarparwn;
· Adolygu contract Merlin (mae’r gwaith wedi dechrau) a gwireddu buddion ac agweddau ar werth am arian prosiect UNO;
· Cynnal y trefniadau llywodraethu cadarnaf er mwyn peidio â bygwth ein gallu i ddarparu na pheryglu ein henw da.
Strategaeth Comisiwn y Cynulliad 2011-16
Datganiad o Ddiben
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Mae Comisiwn y Cynulliad yn gwasanaethu’r Cynulliad Cenedlaethol i feithrin sefydliad democratiadd cryf, hygyrch a blaengar a deddfwrfa sy’n darparu’n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.
Nodau strategol
·
Darparu cefnogaeth seneddol
o’r radd flaenaf
Canlyniad: Mae Aelodau’r Cynulliad yn cael eu gweld eu
bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau strategol i gynrychioli buddiannau
Cymru a’i phobl, yn deddfu ar gyfer Cymru ac yn dwyn
Llywodraeth Cymru i gyfrif.
·
Ymgysylltu’n frwd ac eang
â phobl Cymru
Canlyniad: Mae pobl Cymru’n ymddiddori yng ngwaith y
Cynulliad a gallant ddeall yn rhwydd a chymryd rhan yn rôl y
Cynulliad i ddeddfu, craffu a chynrychioli, a bydd y Cynulliad yn
cael budd o’r egni creadigol sy’n deillio o’r
fath ymgysylltu.
·
Ennill ffydd Aelodau’r
Cynulliad a phobl Cymru yn y modd rydym yn darparu gwasanaethau ac
yn rheoli costau
Canlyniad: Mae Aelodau a’r cyhoedd yn cydnabod ac yn
ymddiried ein bod yn gwneud defnydd da o arian y trethdalwr, ein
bod yn rheoli adnoddau er mwyn darparu gwasanaeth cyhoeddus
hanfodol gydag effeithiolrwydd a gwerth am arian gwell.
Mae’r modd rydym yn darparu’r nodau hyn yn bwysig hefyd. Byddwn yn: